agw. Diarhebion 25:6,7

Luke 14

Iesu yng nghartre un o'r Phariseaid

1Un Saboth, roedd Iesu wedi mynd am bryd o fwyd i gartref un o arweinwyr y Phariseaid. Roedd pawb yno'n ei wylio'n ofalus, 2am fod dyn o'i flaen oedd a'i freichiau a'i goesau wedi chwyddo'n fawr am fod y dropsi arno.

3Gofynnodd Iesu i'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith, “Ydy'n iawn yn ôl y Gyfraith i iacháu ar y Saboth neu ddim?” 4Ond wnaethon nhw ddim ateb. Felly dyma Iesu'n rhoi ei ddwylo ar y dyn, a'i iacháu ac yna ei anfon i ffwrdd.

5Wedyn gofynnodd iddyn nhw, “Petai plentyn neu ychen un ohonoch chi yn syrthio i mewn i bydew ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i'w dynnu allan ar unwaith?” 6Doedd ganddyn nhw ddim ateb.

7Yna sylwodd Iesu hefyd fod y gwesteion i gyd yn ceisio cael y lleoedd gorau wrth y bwrdd. A dwedodd fel hyn wrthyn nhw: 8“Pan wyt ti'n cael gwahoddiad i wledd briodas, paid bachu'r sedd orau wrth y bwrdd. Falle fod rhywun pwysicach na ti wedi cael gwahoddiad. 9Wedyn byddai'n rhaid i'r sawl wnaeth dy wahodd di ofyn i ti symud – ‘Wnei di symud, i'r person yma gael eistedd.’ Am embaras! Gorfod symud i eistedd yn y sedd leia pwysig! a 10Mae'n llawer gwell i ti fynd ac eistedd yn y sedd honno, wedyn pan fydd y sawl roddodd wahoddiad i ti'n cyrraedd, bydd yn dweud, ‘Ffrind annwyl, tyrd yn nes, mae hon yn sedd well.’ Byddi di'n cael dy anrhydeddu yn lle cael dy gywilyddio o flaen y gwesteion eraill. 11Bydd Duw yn torri crib pobl falch, ac yn anrhydeddu'r rhai gostyngedig.”

12Wedyn dyma Iesu'n dweud hyn wrth y dyn oedd wedi ei wahodd i'r pryd bwyd, “Pan fyddi'n gwahodd pobl am bryd o fwyd, paid gwahodd dy ffrindiau, dy frodyr a dy chwiorydd, dy berthnasau, neu dy gymdogion cyfoethog. Mae'n bosib i bobl felly roi gwahoddiad yn ôl i ti, ac wedyn byddi di wedi derbyn dy dâl. 13Dyma beth ddylet ti ei wneud: Pan fyddi di'n trefnu gwledd, rho wahoddiad i bobl dlawd, methedig, cloff a dall, 14a byddi di'n cael dy fendithio. Dydyn nhw ddim yn gallu talu'n ôl i ti, ond byddi'n cael dy dâl pan fydd y rhai sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn codi yn ôl yn fyw.”

Stori'r wledd fawr

(Mathew 22:1-10)

15Clywodd un o'r bobl oedd yn eistedd wrth y bwrdd hyn, a dwedodd wrth Iesu, “Mae'r rhai fydd yn cael bwyta yn y wledd pan ddaw Duw i deyrnasu wedi eu bendithio'n fawr!”

16Atebodd Iesu: “Roedd rhyw ddyn wedi trefnu gwledd fawr a gwahodd llawer o bobl iddi. 17Pan oedd popeth yn barod, anfonodd ei was i ddweud wrth y rhai oedd wedi cael gwahoddiad, ‘Dewch, mae'r wledd yn barod.’

18“Ond dyma bob un ohonyn nhw yn dechrau hel esgusion. Dyma un yn dweud, ‘Dw i newydd brynu ychydig o dir, ac mae'n rhaid i mi fynd i'w weld. Wnei di f'esgusodi fi os gweli di'n dda?’

19“Dyma un arall yn dweud, ‘Dw i newydd brynu pum pâr o ychen, a dw i'n mynd i roi prawf arnyn nhw. Wnei di f'esgusodi fi os gweli di'n dda?’

20“A dyma un arall eto yn dweud, ‘Dw i newydd briodi, felly alla i ddim dod.’

21“Felly dyma'r gwas yn mynd yn ôl a dweud wrth ei feistr beth oedd wedi digwydd. Roedd y meistr wedi gwylltio, ac meddai wrth y gwas, ‘Dos i'r dre ar unwaith, a thyrd â'r bobl sy'n cardota ar y strydoedd i mewn yma – y tlawd, y methedig, pobl sy'n gloff ac yn ddall.’

22“Pan ddaeth y gwas yn ôl dwedodd wrth ei feistr, ‘Syr, dw i wedi gwneud beth ddwedaist ti, ond mae yna fwy o le ar ôl o hyd.’

23“Felly dyma'r meistr yn dweud, ‘Dos allan o'r ddinas, i'r ffyrdd a'r lonydd yng nghefn gwlad. Perswadia'r bobl sydd yno i ddod. Dw i eisiau i'r tŷ fod yn llawn. 24Fydd yna ddim lle i neb o'r bobl hynny gafodd eu gwahodd! Fyddan nhw ddim yn cael tamaid o'r wledd dw i wedi ei threfnu.’”

Cost bod yn ddisgybl

(Mathew 10:37,38)

25Roedd tyrfa fawr o bobl yn teithio gyda Iesu, a dyma fe'n troi atyn nhw a dweud: 26“Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid i mi ddod o flaen popeth arall yn ei fywyd. Rhaid i'w gariad ata i wneud i bob perthynas arall edrych fel casineb! – ei dad a'i fam, ei wraig a'i blant, ei frodyr a'i chwiorydd – ie, hyd yn oed bywyd ei hun! Neu all e ddim bod yn ddisgybl i mi. 27A does neb yn gallu bod yn ddisgybl i mi chwaith heb gario ei groes a cherdded yr un llwybr o hunanaberth.

28“Does neb yn mynd ati i adeiladu adeilad mawr heb eistedd i lawr yn gyntaf i amcangyfri'r gost a gwneud yn siŵr fod ganddo ddigon o arian i orffen y gwaith. 29Does dim pwynt iddo fynd ati i osod y sylfeini ac wedyn darganfod ei fod yn methu ei orffen. Byddai pawb yn gwneud hwyl ar ei ben, 30ac yn dweud ‘Edrychwch, dyna'r dyn ddechreuodd y gwaith ar yr adeilad acw a methu ei orffen!’

31“A dydy brenin ddim yn mynd i ryfel heb eistedd gyda'i gynghorwyr yn gyntaf, ac ystyried ydy hi'n bosib i'w fyddin o ddeg mil o filwyr drechu'r fyddin o ugain mil sy'n ymosod arno. 32Os ydy'r peth yn amhosib bydd yn anfon swyddogion i geisio cytuno ar delerau heddwch – a hynny pan fydd byddin y gelyn yn dal yn bell i ffwrdd! 33Dych chi yn yr un sefyllfa. All neb fod yn ddisgybl i mi heb roi heibio popeth arall er mwyn fy nilyn i.

Halen

(Mathew 5:13; Marc 9:50)

34“Mae halen yn ddefnyddiol, ond pan mae'n colli ei flas pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto? 35Dydy e'n gwneud dim lles i'r pridd nac i'r domen dail; rhaid ei daflu i ffwrdd.

“Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”

Copyright information for CYM